top of page

Rhwydwaith ledled Cymru o artistiaid sain a chrewyr cerddoriaeth arbrofol sy'n gweithio ym maes gwaith byrfyfyr, celf sain, sŵn, drôn, cymysgu dim mewnbwn neu unrhyw arfer anghonfensiynol neu avant-garde arall yw CoDi Dan-Ddaear. Mae'n cynnal cronfa ddata o artistiaid arbrofol, yn cynnal sgyrsiau a gweminarau ar-lein rheolaidd ac ar hyn o bryd mae'n datblygu cyfres o bodlediadau.

Caffi Arbrofol cup.png

CAFFI ARBROFOL

Digwyddiad cymdeithasol ar-lein misol ar gyfer artistiaid sain arbrofol a dan-ddaear. Dydd Iau cyntaf pob mis am 6pm.

Off%20Grid%20network%20icon%202_edited.p

CYMUNED

YMUNWCH â'n cymuned Dan-Ddaear i dderbyn y newyddion diweddaraf a gwahoddiadau i’n digwyddiadau.

Mae aelodaeth y rhwydwaith yn rhad ac am ddim. Datblygir y rhwydwaith mewn cydweithrediad â grŵp llywio o ranwyr a churaduron yng Nghymru.

Off%20Grid%20database%20icon_edited.png

CRONFA ARTISTIAID

Gwelwch ein rhestr gynyddol o artistiaid avant-garde o Gymru.

ARWYDDWCH i ymuno â’r gronfa ddata artistiaid CoDI Dan-Ddaear.

Off%20Grid%20event%20icon_edited.png

DIGWYDDIADAU

Mae CoDI Dan-Ddaear yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein am ddim i gefnogi artistiaid i gysylltu ei gilydd, hyrwyddo eu gwaith, rhannu ymarfer a syniadau, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae siaradwyr gwadd diweddar wedi cynnwys Sarah Angliss, Kathy Hinde, Leafcutter John a Maggie Nicols.

 

Edrychwch ar y rhestrau diweddaraf i weld digwyddiadau'r gorffennol.

Off%20Grid%20Podcast%20icon_edited.png

PODLEDIAD

Pennodau 1-4 ar gael nawr

Ariennir CoDI Dan-Ddaear gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS am y flwyddyn hyd at Fawrth 2021; Nod TÅ· Cerdd yw cynnal a datblygu’r rhwydwaith yn dilyn y cyfnod cychwynnol a ariennir.

 

Mae diogelu eich preifatrwydd yn bwysig i ni yn NhÅ· Cerdd ac rydym wedi ymrwymo i amddiffyn eich gwybodaeth a'ch data personol. Dim ond trwy e-bost y bydd TÅ· Cerdd yn eich cysylltu i ddarparu'r buddion rydych chi wedi cofrestru ar eu cyfer o fod yn rhan o'r cynllun hwn.

CoDI 2020-21 logos.png
bottom of page