Cawsom restr anhygoel o awgrymiadau ond dim ond 20 oedd modd eu cynnwys yn y gêm derfynol! Rydym wedi rhoi gwybod i’r enillwyr a byddan nhw’n derbyn eu copïau ym mis Medi. Cadwch lygad am eu henwau yn y gêm! Enillodd Ysgol Gareth Olwg y gystadleuaeth am yr ysgol orau.
Dyma’r awgrymiadau mwyaf poblogaidd nas defnyddiwyd, ynghyd â faint o bobl a’u hawgrymodd:
• Faint o ddefaid sydd yng Nghymru? (17)
• Beth yw poblogaeth Cymru? (15)
• Faint o gestyll sydd yng Nghymru? (12)
• Beth yw uchder yr Wyddfa? (10)
• Pa mor hir yw Llwybr Arfordir Cymru? (8)
Mae'n rhoi syniad o'r hyn sy'n ddiddorol i ni'r Cymry!